Cwrs cyfathrebu ôl-ganolradd

5 sessions (45 minutes)
£45.89

Newydd orffen cwrs Canolradd ac am gael cyfle i ymarfer siarad?
Ymunwch â’r grŵp cefnogol newydd hwn!

Pwyslais ar gyfathrebu

Mae llawer o gyrsiau Cymraeg fel saffari gramadeg. Dych chi’n rhutho trwy gwrslyfr gyda’r tiwtor yn pwyntio at elfennau gramadegol yma ac acw.

Ar y cwrs hwn cewch chi gyfle i ymarfer siarad a defnyddio’r gramadeg drwy ymateb i ddeunyddiau darllen a sbardunau eraill.

Dal ati!

Yn y sesiynau mae pwyslais ar barhau yn Gymraeg hyd yn oed pan dych chi’n styc.

Cewch chi ddysgu a defnyddio strategaethau i osgoi gorfod troi at y Saesneg.

Byddaf fel tiwtor hefyd yn ymdrechio i esbonio pethau yn Gymraeg yn hytrach na dibynnu ar y Saesneg.

Adnoddau

Bob wythnos bydd deunydd i’w ddarllen. Mae’r thema yn newid bob wythnos ond yn canolbwyntio ar bethau y mae modd ymateb yn bersonol iddynt.

Ar ddiwedd y sesiwn, bydd recordiad llais ar gael lle byddaf yn crynhoi’r sgyrsiau a gafwyd.

Mae’r ffi dych chi’n ei thalu’n rhoi mynediad parhaol i chi at gronfa o adnoddau cwrs.

Cyn y sesiwn:

Yn y sesiwn:

Ar ôl y sesiwn:

Darllenwch erthygl neu ddeynudd o gylchgrawn/llyfr Cymraeg.

Byddwch yn cwblhau tasg ddechreuol ar eirfa neu gynnwys y darn darllen cyn defnyddio sbardunau gwahanol i gynnal sgwrs mewn grŵp bach. Byddaf y gael i helpu ond bydd pwyslais ar rannu’ch profiad a’ch barn personol

Byddaf yn uwchlwytho recordiad ohonof yn crynhoi’r sgyrsiau a gafwyd i’n safle e-ddysgu. Bydd hefyd linciau i ddeunyddiau diddorol a rhestr o ymadroddion a geirfa ddefnyddiol

  • Mae cwrs hwn i'r rhai ohonoch chi sydd wedi cwblhau cwrs Canolradd neu sydd â phrofiad tebyg.

    Dylai eich bod chi'n gallu cynnal sgwrs syml yn y Gymraeg gan ddefnyddio'r presennol, gorffennol syml a'r dyfodol heb droi at y Saesneg.

    Mae disgwyl i fyfyrwyr y cwrs hwn ymdrechu i gyfathrebu yn Gymraeg trwy gydol y sesiwn.

  • wel... dim cweit! Pwrpas y cwrs hwn yw ymarfer y gramadeg sydd gyda chi a'i gryfhau cyn i chi neidio i mewn i gwrs ar lefel uwch.

    Byddaf yn esbonio ambell i bwynt gramadegol yn ôl yr angen, ond nid cwrs gramadeg mo'r un hwn :)

  • Bydd angen dyfais lle y gallwch weld Zoom ac edrych ar adnoddau eraill ar yr un pryd.

    Does dim cwrlyfr ar y cwrs hwn ond caiff adnoddau eu rhannu drwy safle Padlet. Does dim angen cyfrif Padlet i weld yr adnoddau, dim ond cyfrinair a anfonir atoch cyn y sesiwn gyntaf.

  • Dewiswch y cwrs o'r opsiynau ar y dudalen archebu.